Llwybr Treftadaeth
Dilynwch y llwybr a chymerwch yr amser i gael eich cyflwyno i gymeriadau lleol fel John Roberts, y telynor Sipsi Romani a oedd yn enwog fel prif berfformiwr y wlad ar y delyn deires Gymreig.
Darganfyddwch sut y rhoddodd y Brenin Edward I siarter i Roger Mortimer o Gastell Wigmore i sefydlu tref newydd ym Maenor Cedewain, y Drenewydd, fel y daeth yn adnabyddus yn fuan. Perl go iawn i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd i ymweld a rhyfeddu at weddillion y Mwnt a Beili a adeiladwyd yn y 13eg Ganrif.
Mae rhywbeth at ddant pawb ar y daith hynod ddiddorol hon drwy’r oesoedd, mwynhewch wrth eich pwysau a darganfyddwch hyd yn oed mwy o ffeithiau diddorol drwy archwilio’r dolenni a ddarperir ar bob plac. Gallwch lawrlwytho’r map a chyfarwyddiadau ar gyfer y daith yma.


















